Ellen Glynn, Bryn Gwydion
Roedd Ellen Glynne (marw o gwmpas 1753) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. ER bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion, sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Credir iddi Ellen Glynne werthu llawer o’i hystâd, sef Eithinog Wen, er mwyn sefydlu elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl. Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Elen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog.
Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a farwodd yn ddibriod ym 1711.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266