Mapiau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:20, 16 Tachwedd 2017 gan Gwenhwyfar (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer astudio hanes a datblygiad modern Cwmwd Uwchgwyrfai yw ei mapiau. Ymddengys yr ardal ar y mapiau argraffedig cynharaf o'r 16g, ond ychydig o wir wybodaeth amdanynt sydd i'w chael yn y cwmwd, er i rai ohonynt ddangos ffordd o'r gorllewin i Sir Fôn yn croesi'r môr ger Abermenai.

Mapiau'r 18g.

Mae mapiau neu blaniau o ffermydd unigol wedi goroesi o nifer o'r ystadau, rhai o ganol yr 18g, yn eu mysg planiau tir oedd yn eiddo i ystadau Glynllifon a'r Faenol. Mae'r rhain i'w gweld yn bennaf yn Archifdy Caernarfon, ac (o'u hastudio gyda'i gilydd) ceir darlun sylweddol os rhannol o'r cwmwd. Rhinwedd arall y dosbarth hwn o fapiau yw'r ffaith fod tuedd gan yr ystadau i wneud setiau newydd o blaniau bob 30-50 mlynedd, ac felly ceir rhywfaint o olyniaeth, a'r gallu i weld datblygiadau newydd.

Map manwl cyntaf yr ardal gyfan yw hwnnw o eiddo John Evans, 1798. Mae copi yn Archifdy Caernarfon.

Mapiau mwy modern

Mae mwy o lawer o fapiau a phlaniau o eiddo unigol, rhannau penodol o'r ardal a'r ardal gyfan yn y 19g, ac mae'r rhain i'w gweld yn Archifdy Caernarfon, Archifdy Prifysgol Bangor neu'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae rhai o'r mapiau pwysicaf ar gael ar y we hefyd. At ei gilydd, maent hefyd yn ffrwyth technegau mwy soffistigedig o ran tirfesur ac felly cywirdeb.

Map sy'n dangos llawer o fanylion yw map a wnaed gan W.A. Provis cyn adeiladu Rheilffordd Nantlle ym 1826. Mae hwn yn dangos manylion y tir a'r tirberchnogion o bobtu'r lein. Mae'r un peth yn wir am y mapiau a baratowyd cyn adeiladu reilffordd Caernarfon - Afon Wen, 1864 a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, 1877. Dylid nodi hefyd fod mapiau ffyrdd ymysg planiau swyddogol y sir yn Archifdy Caernarfon, nifer ohonynt yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ganrif.

Mae mapiau degwm y pum plwyf yn ffynhonell amhrisiadwy am y cyfnod oddeutu 1840, yn arbennig gan nad oedd yr Arolwg Ordnans wedi cyrraedd yr ardal y pryd hynny. Rhaid oedd i bob plwyf gael map yn dangos yr holl ddaliadau tir (ac fel arfer mae pob cae unigol yn cael ei ddangos), ynghyd ag enwau'r perchnogion a'r tenantiaid, er mwyn pennu treth y degwm. Nodir fel arfer enw pob cae a phob fferm, yn ogystal â dangos ffyrdd ac adeiladau. Mae copïau o'r mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn ddiweddar dan gynllun Cynefin, digideiddiwyd yr holl fapiau trwy Gymru, ac maent i'w gweld am ddim ar wefan Cynefin, [1]

Ffynhonell dda arall yw'r planiau o eiddo a ddarparwyd cyn arwerthiannau. Mae un arbennig o ddefnyddiol ar gyfer tir ystad Bryncir yng nghanol Pen-y-groes. Mae casgliadau da o'r planiau a'r catalogau arwerthiant cysylltiedig ar gael yn yr archifdai. Dyddia lawer o'r rhain o ail hanner y 19g hyd at 1920.

Mapiau Ordnans

Cyhoeddwyd y mapiau cynharaf o'r cwmwd gan yr Arolwg Ordnans yn yr 1840au, ond oherwydd y prosesau argraffu trwy engrafu ac ati nid ydynt yn glir iawn, ac maent ar raddfa fach, sef 1" i'r filltir. Dim ond yn 1888 y cyhoeddodd yr Arolwg ei fapiau cyntaf ar raddfa fawr (6" a 25" i'r filltir) ond mae'r rhain yn fanwl iawn ac yn hollol, gywir i bob pwrpas. Cafwyd adolygiadau pellach tua 1910 a 1947. Mae copïau ar gael ar y we, ac yn hawdd cyrchu atynt ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, [2] sydd wedi ymgymryd â digideiddio mapiau Ordnans Prydain i gyd.

Yn fwy diweddar, mae'r Arolwg Ordnans wedi cyhoeddi mapiau ar raddfa 2 1/2" i'r filltir, ac erbyn hyn gellir prynu'r rhain fel mapiau twristaidd mewn cloriau oren mewn siopau gweithgareddau awyr agored. Mae rhai o'r hen fapiau 1" i'r filltir wedi eu hailargraffu hefyd. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol i'r ymchwilydd.