Menai View

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:06, 11 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Menai View yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa Dinas a throfa Glan-rhyd, er mae tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad gweddol newydd sydd bellach yn dŷ annedd, ond cynt yn siop "gweinwch chi" a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).

Gyferbyn â'r rhain oedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a werthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir; ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Mae hefyd warws offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.

Hefyd tan yn ddiweddar yr oedd Tafarn y Mount Pleasant yno a drowyd yn fwyty Bengali, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei dymchwel.

Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn. Mae'n debyg mai'r enw wedi cychwyn fel enw ar y tŷ bach a siop cigydd ar gornel cyffordd lôn Rhos-isaf, sydd (heblaw am y Mount Pleasant gynt) yr adeilad hynaf yr ochr honno i'r lôn, ar adeg cyn codi tai a modurdy dros y ffordd. Y pryd hynny, cafwyd golygfa dda o geg y Fenai.