Menai View

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:03, 11 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Menai View yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa Dinas a throfa Glan-rhyd, er mae tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad newydd sydd bellach yn dŷ annedd, ond cynt yn siop "gweinwch chi" a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).

Gyferbyn â'r rhain oedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a wewerthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir; ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Mae hefyd warws offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.

Hefyd tan yn ddiweddar yr oedd Tafarn y Mount Pleasant yno a drowyd yn fwyty Bengai, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei dymchwel.

Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn.