Gefail Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:18, 6 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Gefail Dolydd yn un o gefeiliau pwysicaf Uwchgwyrfai yn ei dydd ac yn bur hen. Safai wrth ochr y lôn dyrpeg o Ffingar i Borthmadog, gyferbyn â tholldy Dolydd. Mae'n debyg y dewisiwyd y safle fel y gallai cwsmeriaid gyrraedd yr efail o'r ddwy gyfeiriad heb orfod dalu toll. Yn ogystal â phedoli, gwnaed llawer o waith haearn at alw ffermydd y fro, a cheir llawer i enghraifft o waith yr efail hyd heddiw ar ffurf giatiau ac ati. Un nodwydd o waith pob dydd yr efaill oedd ailddefnyddio metel megis cylchoedd haearn a fuodd o amgylch olwynion troliau trwy eu sythu a'u defnyddio fel estyll llidiardau haearn.

Yn gynnar yn y 20g symudwyd y gwaith i gwt newydd ger Pont Dolydd sydd bellach wedi ei dyfu'n fodurdy, a gwnaed gwaith peirianyddol weldio ac ati yno.

Mae'r "Hen Efail" fel y gelwir yr adeilad heddiw wedi bod yn gaffi, a oedd yn enwog am y topiari siâp eliffant yn yr ardd. Erbyn heddiw mae'n bencadlys cwmni diogelwch.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth leol