Afon Faig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:29, 4 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Faig yn rhedeg i lawr Cwm-yr-haf ar lethr ddeheuol Mynydd Craig Goch nes cyrraedd ei haber gydag Afon Dwyfach ger fferm Tafarn Faig. Mae peth dadlau ynglŷn â ffin Uwchgwyrfai, gan fod llawer yn honni fod trefgordd Nancall i'r gogledd yn Eifionydd (er ei bod yn rhan o blwyf Clynnog Fawr ers canrifoedd.[1] Fodd bynnag, a derbyn Nancall fel rhan o Uwchgwyrfai, ymunodd ffin y cwmwd â glan yr afon tua hanner milltir i'r dwyrain o Dafarn Faig, wedi dod o gopa Mynydd Craig Goch. Wedi cau'r mynydd o'r comin tua 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan yr Afon Faig i'r wal gerrig ar lan ogleddol yr afon a godwyd fel ffin y mynydd yr adeg honno.[2]

Cyfeiriadau

{cyfeiriadau}

  1. Colin Gresham, Eifionydd, Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
  2. Colin Gresham, Eifionydd, Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3.