Pont Tafarn-faig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:09, 21 Tachwedd 2019 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Tafarn-faig yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol Uwchgwyrfai ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Mae'n croesi Afon Faig[1]sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag Afon Dwyfach gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua decharu'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i Nasareth dros yr un afon.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywyddd enwog Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888. Bu farw Robert ap Gwilym Ddu yn 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ewyngroch yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu - Yfwn fir o'r Afon Faig meddai.