Pont Tafarn-faig
Mae Pont Tafarn-faig yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol Uwchgwyrfai ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Mae'n croesi Afon Faig[1]sydd yn dirwyn yn araf o Gwm-yr-haf ond yn ewyngroch erbyn iddi ymuno ag Afon Dwyfach gerllaw. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua decharu'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i Nasareth dros yr un afon.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywyddd enwog Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach
- ↑ Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888. Bu farw Robert ap Gwilym Ddu yn 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig.