Bryn Terfel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:17, 15 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Magwyd Bryn Terfel, neu Bryn Terfel Jones (g.1965) (Syr Bryn Terfel erbyn hyn) yn Hendre Nantcyll, Pant-glas, gan fynychu Ysgol Dyffryn Nantlle. Ar ôl mynychu Coleg Cerdd a Drama'r Guldhall yn Llundain a phrofi llwyddiant fel canwr opera, fe brynodd hen adeilad Clwb Fron Dinas, rhwng Ffrwd Cae Du a phentref Y Bontnewydd, gan fagu ei deulu yno. Y mae bellach yn byw ym Mhenarth gyda'i ail wraig.

Mae o wedi recordio llawer iawn o gerddoriaeth o fyd yr opera, cerddoriaeth fwy poblogaidd megis caneuon o sioeau cerdd Americanaidd, a sawl albwm o ganeuon Cymraeg, gan gynnwys cydweithrediadau gyda'r cyfansoddwr o Ddyffryn Nantlle, Robert Arwyn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Am fanylion llawn gyrfa Bryn Terfel, ei ddisgyddiaeth ac ati, cyfeirir at dudalen Wicipedia [1] a Wikipedia Saesneg [2]