Pont Tafarn-faig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:36, 14 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Tafarn-faig yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol Uwchgwyrfai ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Mae'n croesi'r afonig sydd yn llifo i lawr Cwm-yr-haf ychydig cyn i honno ymuno ag Afon Ddwyfach. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua decharu'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o Dafarn-faig i Nasareth dros yr un afon.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888