Teulu Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:13, 10 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trosolwg

Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod y 16g. fe mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r nesaf fel oedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan brenhinoedd y Tuduriaid i gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriad yn Lloegr.

Methodd y llinach trwy'r ochr wryw tua diwedd y 17g., pan fu merch hynaf y plas briodi aelod o deulu Boduan, Llŷn oedd yn arddel y cyfenw "Wynn". Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Ers 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.

Penteuluoedd Glynllifon

Y Glynniaid

Yr achres gynnar, lled ansicr

  • Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
  • Lleon
  • Llowarch
  • Iddig
  • Iddon
  • Dyfnaint
  • Gwrydyr

Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen

  • Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd fab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd Tudur Goch o Blas Nantlle.
  • Ystrwyth ab Ednowain
  • Iorwerth Goch
  • Ieuan ab Iorwerth
  • Einion ab Ieuan, a briododd Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
  • Goronwy ab Einion, a briododd Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
  • Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd Morfudd ferch Hywel, ei chyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu, ac felly daeth ddwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.

Y teulu a oedd i sicrwydd ynbyw yng Nglynllifon

  • Hwlcin Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn



Dyma'r llinach gryw wreiddiol a feddianodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wryw fethu yn niwedd y 17g. Fe restrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.

Y Wynniaid

Cyfeiriadau