Gwenno Hywyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:18, 2 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cofeb Gwenno Hywyn

Roedd Gwenno Hywyn (ganed Gwenno Lloyd Price) (1949-1991) yn awdures boblogaidd yn bennaf ym maes llenyddiaeth i blant. Ymysg ei gwaith mae Tydy Bywyd yn Boen a droswyd yn gyfres deledu. Cafodd ei magu'n ferch y mans yn Llundain nes iddi fod yn 13 oed. Â'i theulu'n hanu o bentref Pen-y-groes, ar ôl graddio ym Mangor a dysgu mewn ambell i fan, setlodd gyda'i gŵr, John Hywyn, yn Nhŷ'n y Maes, Llanwnda.[1]

Mae cofeb wedi ei godi iddi ger adeiladau Parc Glynllifon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia [1], cyrchwyd 2.9.2019