Morris William Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 29 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prifathro Ysgol Trefor o 1928 tan 1946 oedd Morris William Jones.

Fe'i ganwyd yn Nhan'rallt ger Llanllyfni ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll Chwarel Dorothea, y chwarel lechi fawr yn Nyffryn Nantlle. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn Ysgol Llanllyfni ac yn Ysgol Ganol Pen-y-groes, ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr Higher Grade yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro Ysgol Ynys yr Arch, Pant-glas.

Priododd ag athrawes o Dal-y-sarn, Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol Trefor o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym Mynwent Tai Duon, Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.

Bu'n flaenor a thrysorydd yng Nghapel Gosen (M.C.) ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o Seindorf Arian Trefor. Bu hefyd yn arwain Côr Plant Trefor yn llwyddiannus am flynyddoedd. [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones 'Rhen Sgŵl (1978)