Côr Plant Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Côr Plant Trefor gan Morris William Jones, a fu'n brifathro Ysgol Gynradd Trefor o 1928 tan 1946. Dan ei arweiniad bu'r côr yn llwyddiannus am rai blynyddoedd gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol a chymryd rhan mewn cyngherddau. Colled fawr i'r ysgol ac i'r gymdogaeth yn gyffredinol fu marwolaeth annhymig Morris W. Jones o'r cancr yn 54 oed ar 30 Mehefin 1946.[1]


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl (1978), tt,66-7.