Gareth Maelor Jones
Ar ôl cyfnod yn y Weinidogaeth, daeth y Parchedig Gareth Maelor Jones i Uwchgwyrfai fel warden Cartref Bontnewydd; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth Adran Ysgrythur yn Ysgol Dyffryn Nantlle.
Fe'i urddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.