Cwm Coryn
Mae Cwm Coryn yn un o gymoedd mwyaf diarffordd Uwchgwyrfai. Mae'r ffordd o ganol pentref Llanaelhaearn i fyny'r cwm heb arwain i'r un lle y tu draw i'r cwm ac felly ychydig sydd yn ei thramwyo. Rhed y cwm ar hyd ochr ddeheuol Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Bu capel yn y cwm, tua milltir o'r pentref, i wasanaethu'r ychydig ffermydd sydd yno.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Map Ordnans