Ystad Lleuar
Roedd Ystad Lleuar yn ystad annibynnol nes iddi gael ei huno ag Ystad Glynllifon, wedi i'r teulu oedd yn berchen arni fynd yn fethdalwyr. Yr aelod cyntaf o'r teulu y mae cofnod ohono yw William Glynne, Lleuar, Sarsiant yn y Gyfraith dan Harri VIII - a briododd wyres anghyfreithlon Harri Tudur (Harri VII). Dichon iddo etifeddu tiroedd Leuar oddi wrth ei dad, Robert ap Meredydd, Glynllifon, a bu ychwanegu at y rhain gan ei ddisgynyddion. Ym 1660, ar farwolaeth ei or-ŵyr, pasiodd y tiroedd i'w ferch Mary Glynn (1633-1676), gwraig George Twisleton. Ar ôl marwolaeth ei ŵyr (George rhif III) ym 1732 pasiodd y tiroedd i ŵr ei or-wyres Mary a'i gŵr, y Cadben William Ridsdale, Ripon, Swydd Efrog, ac yntau'n eu gwerthu i Thomas Wynn, A.S., Glynllifon. Yn y cyfamser, yr oedd y teulu wedi morgeisio llawer o'r tir gan eu bod yn wynebu dyledion mawr, a rhaid hefyd oedd setlo'r dyledion. Trwy hyn, ailunwyd rhai o diroedd cynharaf y Glynniaid efo'r prif ystad.[1]
Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724. Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.
Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr y soniwyd amdani uchod:
Plwyf Clynnog Fawr
- Clynnog Plas
- 3 thŷ a'u gerddi yng Nglynnog Fawr
- Pennarth
- Cilcoed
- Carreg Boeth
- Tŷ Coch
- yr efail yng Nghlynnog Fawr
- Penybryn
- Ynys Wyddel
- Maesog
- Brynhafod Bach
- Bryn Evan
- Hen Bont
- 2 ddaliad Cors-y-wlad
- Cae hir
- Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
- Tŷ Glas
- Ynys yr aren
- Brysgyni
- Glan-y-môr
- Parc Bach
- Pen Rhiwiau
- Melin Glan-y-môr
Plwyf Llanaelhaearn
- Moelfre Fawr
- Tyddyn y Drain
- Cae'r Wrach
- Corn Ceiliog
- Caeau Duon
- Llawr Sychnant
- Tyddyn Hir
Plwyf Llandwrog
- tir gan Rowland John Rowland
- rhan o gae ("quillet") gan William Jones
- rhent gan Humphrey Meredydd, ysw.
Plwyf Llanllyfni
- Dolgau
- Llwydcoed Bach
Plwyf Llanwnda
- Crynnant
- Gwredog
ac, y tu allan i ffinau Uwchgwyrfai,
Tref Caernarfon
- o leiaf 14 o dai
- Boot (efallai Tafarn y Boot)
- Vaenol House
- cae o fewn ffiniau'r dref
- tanerdy
Plwyf Llangelynnin
- Gynnal
- rhent oddi wrth Felin Ariannus
- Rhiw
- eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma