Maesog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

I'r de o bentref Gapel Uchaf a thua milltir o Glynnog Fawr, saif ffarm Maesog a fu yn dŷ i reciwstaniaid Pabyddol (y rhai a wrthodai fynychu gwasanaethau Eglwys Loegr yn ôl gofynion Deddf Gwlad Cymru a Lloegr o’r 16g hyd at y 18g) yn ystod cyfnod y Diwygiad Protestannaidd. Parhai ardal Clynnog Fawr i fod yn gadarnle Pabyddol yn y cyfnod a chofier am y dewrion:

Yr offeiriad Morus Clynog y gorfu iddo ddianc i Rufain.
Yr offeiriad Gruffydd Jones (a elwid hefyd yn John Jones) o Glynnog. Dienyddiwyd a chwarterwyd ef ar 15 Gorffennaf 1528 am iddo yntau wrthod cydymffurfio. Fe’i dyrchafwyd yn Sant gan Y Pab ar 25 Hydref 1970 – Sant John Jones.
Siôn Gwynedd (neu John Gwyneth), cerddor cyflogedig yn Eglwys Clynnog, a garcharwyd am iddo wrthod plygu i’r drefn.

Arhosodd teulu Maesog yn Babyddion pybyr, a defnyddiwyd y tŷ fel canolfan i gynnal offeren gan reciwstaniaid lleol.

Maesog


Pan ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920 roedd Maesog, Brynhafod, Cefn Brynhafod, Pantafon, Cae Crin a’r Comin, yn eiddo i Goleg Magdalen, Rhydychen.[1]

Yn Atlas Sir Gaernarfon[2] rhestrir y tiroedd a berthynai i’r clas a sefydlodd Beuno yng Nghlynnog.[3](clâs yw’r ynganiad cywir nid yr ynganiad Saesneg fel yn y gair ‘’class’’ yn golygu dosbarth).


Cyfeiriadau

  1. Llyfr Rhenti Plwyf Clynnog, Tachwedd 1865.
  2. Atlas Sir Gaernarfon, Cyngor Gwlad Gwynedd, 1977, t.90
  3. https://cy.wikipedia.org/wiki/Clas