Llyn y Dywarchen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:59, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau am ddŵr, ond mae'r llyn yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.

Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill , oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Roedd tŷ a godwyd gan deulu Drws-y-coed ar gyfer Morafiaid Drws-y-coed a ymsefydlodd yn yr ardal yn sefyll le mae maes parcio bychan yn awr.

Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.

Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[1]


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1] cyrchwyd 13.6.2019