Llyn y Gader
Mae Llyn y Gader i'r de o bentref Rhyd-ddu ac yn dechnegol mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfai neu fel y'i gelwir yn yr ardal, Afon Cwellyn neu Afon Llyn y Gader. Mae ffin plwyf Llanwnda ac felly ffin Uwchgwyrfai fodd bynnag yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y man lle mae'r afon yn cychwyn ar ei daith o'r llyn.