Cae'r Gors
Mae Cae'r Gors ynhen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Saif ar y ffordd o ben Allt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droped Mountain Rangers.
Erbyn yr 1980au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ a'i gyflwyno i'w ffrindiau er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw ugain mlynedd yn ddiweddarach, ffurfiwyd pwyllgor newydd i adfer y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Ar ôl sicrhau grantiau, dyma a wnaed, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlywio a chyfarfod. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais unrhyw un sydd am weld y lle.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol