Llyn Nantlle Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:17, 30 Ionawr 2019 gan 92.3.1.155 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llun enwog Richard Wilson. Sylwer ar y pysgotwyr wrth (ac ar) y llyn

Llyn Nantlle Uchaf yw enw cywir y llyn a elwir heddiw fel arfer yn Llyn Nantlle. Tan ddiwedd y 19g., roedd Llyn Nantlle Isaf hefyd i'w weld, gyda ond stribyn tenau o dir yn gwahanu'r ddau lyn, ger Baladeulyn, sef y man lle ymuna ddau lyn â'i gilydd. Rhed Afon Drws-y-coed, a sawl afonig arall megis Afon Garth i'r llyn, ac o'r llyn mae Afon Llyfnwy'n llifo trwy safle'r llyn isaf ac ymlaen trwy Llanllyfni at y môr ym Mhontlyfni. Erbyn hyn, mae'r ail lyn wedi diflannu o dan wastraff y chwareli a chynllun dargyfeirio'r afon.

Llyn gweddol fas yw Llyn Nantlle Uchaf, gyda dyfnder ar gyfartaledd o ddim ond 20 troedfedd, er bod darn ger y pen gorllewinol sydd tua 20 tropedfedd o ddyfnder ac yn y fan hon y ceir llawer o bysgod mudol wedi iddynt nofio o'r môr.[1]

Mae'r llyn yn cael ei ddefnyddio fel llyn pysgota eogiaid a brithyll, ac mae llun enwog Richard Wilson o Lyn Nantlle a'r Wyddfa yn dangos nifer o bysgotwyr ar y lan ac mewn cychod. Ym 1889, amddiffynnodd David Lloyd George dri dyn lleol a gyhuddwyd o bysgota yn y llyn gan Frwdd Cadwraethwyr Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy[2]

Mae'r llyn yn nodedig yn bennaf am nifer y sewin sy'n cael eu dal - tua 400 y flwyddyn ar gyfartaledd. Ychydig iawn o eogiaid sydd bellach yn cael eu dal yno, ond mae digonedd o frithyllod brown yno.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. WynnDavies, Between a Rock and a Hard Place, Cylchgrawn 'Trout and Salmon', Awst 2007, tt.20-22, ar gael ar y we, {therightangle.eu/doc/Nantlle.pdf]
  2. North Wales Observer, Mai 1889.
  3. Wynn Davies, op. cit.