Richard Garnons

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:34, 17 Ionawr 2019 gan Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llinach

(gweler hefyd Teulu Pant Du)

Richard Garnons (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841), mab y Capten Richard Garnons, Plas Llanwnda, Caernarfon a farwodd 1803; ac efe, y mab, oedd yr olaf o linach Teulu Garnons i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym Mhant Du. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir Ddinbych a marw yn Llanferres yn yr un sir (er iddo gael ei fedyddio yn Llanbeblig), dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf Llanllyfni. [1] Yn sicr, roedd o'n byw am ran o'r amser o leiaf yng Ngholomendy, Sir Ddinbych, yn ystod y 1820au ac 1830au, yn nhŷ ei chwaer Catherine a oedd wedi ei etifeddu.[2] Roedd Garnons hefyd yn berchen ar Blas Coed-llai gerllaw a etifeddodd trwy ei fam,[3] ond dewisodd osod y tŷ hwnnw i bobl eraill, gan fyw efo'i chwaer.[4] Cyn hynny, fodd bynnag, fe gaiff ei ddisgrifio fel 'Richard Garnons o Gaernarfon'.[5] Etifeddodd ystad sylweddol yn Uwchgwyrfai, gyda nifer o ffermydd ym mhlwyfi Llanllyfni, Llanwnda, Llandwrog, Llanfaglan a Llanbeblig, yn ogystal â Llandegfan ar Ynys Môn, yn cynnwys tua dau ddwsin o ffermydd yn ymestyn dros 1808 acer.[6] Dichon hefyd iddo ddefnyddio Plas Llanwnda, yn Stryd y Castell, Caernarfon fel ei gartref yn yr ardal pan deuai i'r ardal i gynnal ei fusnes: roedd ei fam yn etifeddes Plas Llanwnda, a bu iddi farw 1809.[7]

Trwy deulu Wynniaid, Coed-llai, roedd yn gyfyrder i'r artist Richard Wilson.[8]

Chwarelydda

Datblygodd Garnons Chwarel Pen-y-bryn neu Gloddfa'r Lôn oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o Chwarel Dorothea, trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. [9] Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel Cloddfa Turner, fe enwyd y chwarel gyfan yn "Chwarel Dorothea", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.[10]

Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef Cwmni Rheilffordd Nantlle. Cafwyd trafferth i lywio'r mesur i ganiatáu'r lein trwy'r Senedd, ond fe'i basiwyd yn y diwedd oherwdd dylanwad Garnons fel twrnai yr Ardalydd Môn ar ei gleient, a ddefnyddiodd hwnnw ei rwydwaith o gysylltiadau yn San Steffan wedyn i sicrhau llwyddiant y mesur.[11] 10 tunnell o lechi o chwarel Garnons oedd y llwyth cyntaf i deithio i lawr y lein, a hynny ar 17 Gorffennaf 1828.[12] Cymerodd ddiddordeb rhagweithiol yn y rheiulffordd newydd trwy wasanaethu fel aelod ar y pwyllgor rheoli o'r cychwyn.[13]

Ymgyrchodd yn galed i sefydlu Ysgol Fasnachol i Gaernarfon ym 1815, ac roedd hyn yn amlwg yn achos oedd yn agos at ei galon. Honnai nad oedd yr ysgolion gramadeg Cymreig traddodiadol yn ateb yr anghenion ar gyfer rhai oedd am fyd i fyd busnes.[14]

Gwleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus

Erbyn etholiadau 1830 ac 1832, er gwaethaf ei berthynas ffrwythlon efo Ardalydd Môn wrth geisio pasio bil Rheilffordd Nantlle, roedd Garnons, fel tori, yn ffyrnig yn erbyn pasio Deddf Ddiwygio'r Senedd. Er yn dawel gefnogol i Syr Charles Paget, whig a brawd iau Ardalydd Môn ym 1830, erbyn 1832, fe trôdd i fod yn gefnogol iawn i William Ormsby Gore, yr ymgeisydd a wrthwynebodd Paget.[15]

Er nad oedd ymysg y mwyaf amlwg ym mywyd cyhoeddus, roedd yn ynad heddwch ar gyfer Meirionnydd ym 1834 - ar y cŷd ag Ormsby Gore.[16] Cyn hynny, roedd wedi gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1804, pan oedd yn byw yn ei dŷ, Plas Coed-llai.[17]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.157
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/11283; 15431; 17682; Gwefan am yr artist Richard Wilson, [1], cyrchwyd 15.01.19
  3. J.E. Griffiths, op.cit., t.240.
  4. Gwefan Safleoedd a Chofebion Sir Ddinbych, [2], cyrchwyd 15.01.19
  5. Archifau Prifysgol Bangor, Carter Vincent 17, 2203
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Arolwg o diroedd Richard Garnons, Llysg.11507E.
  7. Cyfeiriadaur Masnach Pigot, 1828-9; J.E. Griffiths, op.cit.
  8. Y Casglwr, Rhif 50 (1993), t.11
  9. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, tt.77-8; 97-8; 121.
  10. Jean Lindsay, op.cit., t.121
  11. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, (Oakwood, 1981) Cyf. 1, tt.11-13; Gareth Haulfryn Williams, Sŵn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), t.9
  12. Boyd, op.cit., t.25
  13. Boyd, op.cit., t.13
  14. Archifdy Caernarfon, XPoole/5645-55
  15. Llewelyn Jones, Sir Charles Paget and the Caernarvonshire Boroughs, 1830-1832, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.21, (1960), tt. 81, 89-90
  16. Archifdy Dolgellau, ZQS/T1834/47/3
  17. Wicipedia, Rhestr Siryfion Sir y Fflint, [3], cyrchwyd 15.01.19