Chwarel South Dorothea
Chwarel lechi un twll oedd Chwarel South Dorothea (SH 494529), a orweddai rhwng Chwarel Coedmadog i'r gorllewin a Chwarel Dorothea i'r dwyrain a'r gogledd. Fe'i agorwyd tua 1867, gan Gwmni Llechi South Dorothea. Ym 1882, cynhyrchwyd 1040 tunnell o lechi yno, gan 70 o dynion. Fe'i prynwyd ym 1921 gan Chwarel Dorothea.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 331.