Tramffordd Hafod-y-wern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tramffordd Hafod-y-wern yn cysylltu Gorsaf reilffordd Betws Garmon Rheilffordd Cul Gogledd Cymru efo Chwarel Hafod-y-wern, er mwyn cludo'r llechi i'r gyffordd â Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNWR) yng Nhyffordd Dinas. Fe'i hagorwyd yr un adeg a'r prif lein, ym 1877; dichon bod y chwarel hon, ynghyd â chwareli yn ardal Rhyd-ddu, wedi bod yn rhan o symbyliad agor y lein ond, ysywaeth, caeodd CHwarel Hafod-y-wern erbyn 1882.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194