Benjamin Piercy
Hyrwyddwr a pheirannydd rheilffordd oedd Benjamin Piercy (1827-1888). Roedd yn bartner efo Thomas Savin yn y gwaith o sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon. Yn wreiddiol o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, fe ddilynodd ei dad yn y proffesiwn o dirfesuro. Roedd Savin yn chwarae'r prif ran mewn sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon fodd bynnag, gan fod Piercy wedi cychwyn ym 1862 ar gyfnod hir fel prif hyrwyddwr, peiriannydd a symbylydd rheilffyrdd Sardinia.
Ffynonellau
1.Peter E Baughan A Regional History of the Railways of Great Britain, Cyf.11: North and Mid Wales, tt.97-9 2.Y Bywgraffiadur Cymreig, t.722