Rheilffordd Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:37, 18 Hydref 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen gan gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon, sef y "Carnarvonshire Railway".

Cwmni byrhoedlog gyda hanes cymhleth oedd hwn. Fe'i sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol gan Thomas Savin a Benjamin Piercy yn Nachwedd 1861, ond yn wyneb gwrthwynebiad o sawl tu, a chan gwmni Rheilffordd Nantlle yn benodol, cymerwyd tan 1864 i ddechrau adeiladu'r lein a ni ddechreuodd trenau redeg tan 2 Medi 1867 ar hyd y lein 27 5/8 milltir o hyd, o gyrion Caernarfon hyd at Afon-wen ar lein y Cambrian. O 1867 felly, roedd pobl Uwchgwyrfai yn gallu teithio i fannau ar draws y wlad, trwy Fachynlleth ac Amwythig.

Yn y dechrau nid oedd cysylltiad gyda changen Rheilffordd Caer a Chaergybi a derfynnai (o 1852 ymlaen) yng Nghaernarfon (ar safle archfarchnad Morrison's heddiw). Rhedai'r cledrau o Afon-wen hyd at Pant (rhwng Frongoch a Chartref Seiont Newydd) am rai blynyddoedd nes i Reilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin uno'r rheilffordd hon a'r gangen o Fangor i Gaernarfon.

Prynodd cwmni Rheilffyrdd Sir Gaernarfon gwmni Rheilffordd Nantlle, gan ddefnyddio rhannau helaeth o drac a thir y cwmni hwnnw er mwyn adeiladu eu lein led safonol (4'8 1/2").

Ffynhonellau

Peter E Baughan A Regional History of the Railways of Great Britain, Cyf.11: North and Mid Wales, tt.97-9