Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:00, 1 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein Rheilffordd Nantlle ger Pant Du ar draws y dyffryn i gyfeiriad Tan'rallt, gan wasanaethu Chwarel lechi Tan'rallt, Chwarel lechi Fronheulog a rhai chwareli bychain eraill. Fe'i hadeiladwyd, mae'n debyg, yn ystod y 1850au. Wedi i Reilffordd Nantlle gael ei chau, a Rheilffordd Sir Gaernarfon gyda'i thrac 4' 8½" adeiladu cangen i Dal-y-sarn, ffurfiwyd seidin yno i drawslwytho'r llechi. Defnyddid ceffylau i lusgo'r wagenni ar hyd-ddi gydol oes y lein, a gaewyd tua 1915.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.177.