Glan-rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:50, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Glan-rhyd yn gasgliad o dai ger brif lôn y cwmwd ym mhlwyf Llanwnda gerllaw Ffingar. Dichon i'r dreflan dyfu o ganlyniad i godi capel yno (Capel Glanrhyd, Llanwnda (MC) ym 1899. Y rhyd oedd Rhyd y Dimpan, rhyd bwysig ar y briffordd rhwng Bwllheli a Chaernarfon. Mae'n sefyll ar lannau Afon Rhyd.

Mae enw Glan-rhyd yn ymddangos mewn dogfennau mor gynnar â'r 1650au, ac felly dichon ei fod yn enw ardal cyn iddo ddod yn enw treflan.