Moel Smytho

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:20, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Moel Smytho o'r gogledd: Geograph.co.uk

Mae Moel Smytho yn fryn tua 343 metr (1125 tr.) o uchder, uwchben Rhosgadfan a'r Lôn Wen ym mhlwyf Llanwnda. Mae ambell i barc neu dyddyn wedi ei amgáu o'r ccomin, ond at ei gilydd tir uwchben y llinell amaethu sydd yma wedi ei orchuddo'n bennaf â grug. Mae'n ffurfio rhan o diroedd honedig y Goron, neu "Comin Uwchgwyrfai". Mae gwefan Cofleion yn nodi nifer o hen gysgodfannau defaid ar lethrau'r foel, i gyd wedi eu dadfeilio.