Melin Faesog
Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Bu'r felin, wedi iddi beidio â malu, fynd o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac yn adrodd y stori mewn llyfr Saesneg.[1].
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682[2] Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma