Afon Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:13, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Llifon yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf Llandwrog nid nepell o'r Bryngwyn, gan redeg trwy geunant ger Maes Tryfan, dan bont y lôn fawr a'r hen reilffyrdd ger Llwyn-y-gwalch, ac ar draws y caeau nes groesi Lôn Cefn Glyn dan bont na welir bron i mewn i Barc Glynllifon, lle mae'n llifo trwy'r Cwm Coed. O flaen Plas Glynllifon mae wedi ei ffurfio fel camlas at ddibenion cychod bach ac ati, cyn droi melin y stâd. O'r fan honno, mae'n llifo trwy'r parc, dan Bont Plas Newydd ac i'r môr rhwng ffermydd Tŷ Mawr a Maes Mawr.

Mae'r afon wedi arfer troi nifer o felinau (gweler Melinau Afon Llifon. Dichon mai enw'r afon yn cyfeirio at gyflymder y dŵr, yn arbennig ger Maes Tryfan.