Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 14 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Carmel yn bentref ym mhlwyf Llandwrog.

Lleoliad

Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf Mynydd Cilgwyn. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf Llandwrog i'r Fron yn croesi'r lôn o bentref Pen-y-groes i gyfeiriad Rhosgadfan.

Busnesau ac adnoddau lleol

Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Bu ysgol yno hefyd nes iddi gael ei huno ag Ysgol Gynradd Bro Lleu ar safle Ysgol Gynradd y Groeslon. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.

Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl Capel Carmel (MC). Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capel arall y pentref yw Capel Pisgah, sef capel y Bedyddwyr (y mae eu hen gapel hefyd yn dal i sefyll). Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, a gwerthwyd hen gapel Pisgah i fudiad Uniongred.

Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.

Enwogion y pentref

Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd

ac hefyd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma