Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 12 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyffryn Nantlle yw prif ddyffryn Uwchgwyrfai. Mewn gwirionedd dyffryn yr Afon Llyfnwy ydyw, yn rhedeg o Ddrws-y-coed yn y dwyrain hyd aber yr Afon Llyfnwy ym Mhontlyfni. Mae rhan helaethaf o lawer o'r dyffryn o fewn ffiniau plwyf Llanllyfni, er i rai o'r man afonydd sy'n bwydo'r LLyfnwy'n llifo trwy rhan ogleddol plwyf Clynnog Fawr, a hyd ail hanner yr 20g, roedd glannau gogleddol y Llyfnwy Dal-y-sarn ym mhlwyf Llandwrog.

Weithiau defnyddir y term "Dyffryn Nantlle" i gynnwys pentrefi megis Llandwrog, Rhostryfan, Rhosgadfan a Carmel ymysg pentrefi'r dyffryn, ond mewn gwirionedd, pentrefi sydd â'u nentydd yn llifo i'r môr ger Y Foryd, ac felly mewn system arall o fan ddyffrynnoedd y maent yn sefyll.

Prif bentref y dyffryn erbyn heddiw heb os yw Pen-y-groes er nad oedd y fan honno'n bodoli cyn canol y 19g. Hen ganolfan y dyffryn oedd pentref Llanllyfni, lle cynhelid ffeiriau.

Bu llawer o chwareli yn y dyffryn, yn cynnwys Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-yr-orsedd a nifer helaeth o rai llai. Bu cloddio sylweddol am gopr hefyd yn Nhrws-y-coed.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma