Simon McPherson
Rheolwr chwareli ithfaen oedd Simon McPherson (c1877-1957).
Roedd McPherson yn rheolwr Chwareli ithfaen Tyddyn Hywel a Than-y-graig rhjwng Clynnof Fawr a phentref Trefor ar lethrau gogleddol Gurn Ddu rhwng 1909 a 1922.
Yn 1917 fe alwodd gyfarfod yng ngwestyTywysog Cymru yng Nghaernarfon, pan benderfynwyd sefydlu corff a ddatblygodd yn fuan fel Y Sefydliad Chwarelydda (Institute of Quarrying" neu IoQ), ac fe'i benodwyd yn Ysgrifenydd Cyffredinol. Dyma yw corff proffesiynol peirianwyr ac arbenigwyr chwarelydda ym Mhrydain Fawr hyd heddiw, gyda changhennau mewn sawl man yn y byd. Cododd y Sefydliad bencadlys newydd ym 1912 yn Chilwell, Swydd Nottingham a'i enwi'n McPherson House i anrhydeddu ei sylfaenwr.
Ar ei farwolaeth ym 1957 fe olynwyd yn ysgrifennydd cyffredinol y Sefydliad gan ei fab.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma