Maes Awyr Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:18, 24 Ebrill 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Maes Awyr Caernarfon yw enw presennol y maes awyr ar Drwyn Dinlle a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar gyfer y llu awyr a'i alw'n "RAF Llandwrog". Gwelir llawer o hen adeiladau a murddunod o amser y rhyfel o hyd ar y maes awyr ei hun ac yn ei gyffiniau. Defnyddid y tŵr rheoli gwreiddiol tan yn ddiweddar, pan godwyd adeilad talach ychydig i'r gorllewin.

Mae'r maes awyr yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer hedfan pleser ac awyrennau preifat (gan gynnwys microawyrennau), ond cynigir cyfleon masnachol i hedfan o gwmpas yr ardal. Ers troad y ganrif mae'r Ambiwlans Awyr wedi cadw un o'i hofrenyddion yma, ar gyfer argyfyngau a gwyd yng ngogledd Cymru; ac ers 2015 mae'r gwasanaeth achub môr a mynydd a gynhaliwyd gynt gan y llu awyr yn y Fali wedi cael ei drosglwyddo i safle newydd ym maes awyr Caernarfon, lle mae asiantaeth breifat yn gweithredu ar ran Gwylwyr y Glannau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau