Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:50, 12 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dinas yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys Llanwnda. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a Plas Dinas, hen gartref y Buckeleyaid ac wedyn teulu Armstrong-Jones. Yma y mae pencadlys lleol Dŵr Cymru, ac ar un adeg dyma lle roedd depo Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, a'r Bwrdd Afonydd. Dyma hefyd safle Gorsaf reilffordd Dinas ar lein Rheilffordd Eryri. Dyma lle gychwynnodd lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, ac roedd cyfleusterau yma i newid trenau o'r lein fawr i'r lein fach. Mae Ystafell yr Eglwys ar yr allt i lawr o'r ffordd fawr i Ddinas ei hun lle cynhaliwyd digwyddiadau a lle'r oedd yr orsaf bleidleisio nes i Ganolfan Felinwnda agor ar ddechrau'r ganrif. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi cau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma