Ffynhonnau Uwchgwyrfai
Mae nifer o ffynhonnau Uwchgwyrfai âhens sy'n myn dynôl cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Mae gan rai enwau, c mae rhai yn meddu ar rinweddau gwirioneddol neu honedig. Rhai o'r rhain yw'r ffynhonnau sanctaidd a gysylltir yn aml â saint oes cynnar yr Eglwys celtaidd. Rhestrir rhai hynod isod, a cheir erthyglau unigol ar rai ohonynt.
Cyn dyddiau pibellau dŵr, roedd gan bob fferm a'r rhan fwyaf o dai ffynnon, naill ai un a fyrlymodd o'r graig neu un wedi tyllu i lawr nes gyrraedd lefel y dwr yn y ddaear. Yn y man pibellwyd rhai gan greu ffynnon gymunedol yng nghanol pentref (megis yn Llandwrog, neu ddarparu cyflenwad i nifer o dyddynod a ffermydd y fro (megis yn achos Ffynnon Wen ger y Bryngwyn.