Chwarel Coedmadog
Chwarel lechi oedd Chwarel Coedmadog, neu fel y gelwir weithiau Gloddfa Glai yn Nhalysarn.
Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir ystâd Coedmadog, wrth ymyl Cloddfa'r Coed. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan De Winton erbyn y diwedd. Ddaru'r chwarel gau yn 1908, er bod gwaith ar raddfa fechan yno hyd 1920. Roedd cyswllt yma hefyd gyda Rheilffordd Nantlle, ond erbyn diwedd oes y chwarel roedd cyswllt uniongyrchol gyda'r LNWR - yr unig chwarel i wneud hyn yn yr ardal.
Ffynhonnell
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma