Owen Wynne Jones (Glasynys)

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhyn-y-ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts[1]. Roedd y teulu'n mynychu Capel Horeb (MC), Rhostryfan. Yn ddeng mlwydd oed aeth i weithio yn y chwarel – roedd y teulu bryd hynny yn byw yn Rhosgadfan, mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog gan briodi Puah Jones (Roberts gynt), gweddw Thomas Jones o westy'r Sportsman.[2] Symudodd y ddau i Dywyn Meirionnydd yn 1869 ond bu farw Glasynys o fewn ychydig fisoedd. Nid oedd plant o'r briodas. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[3]
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Cyhoeddodd O. M. Edwards gasgliad o'i farddoniaeth yn 1898 dan yr enw Gwaith Barddonol Glasynys (Gwrecsam: Hughes a'i Fab). Ysgrifennai Glasynys at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[4] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r prif ffynonellau o'i waith rhyddiaith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.
I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb ym 1928.[5]
Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William John Roberts (Llwydlas).[6] Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bo'r llall wedi glynu at hen arfer patronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841
- ↑ Gwaith Barddonol Glasynys, gol. Owen M. Edwards (Gwrecsam: Hughes a'i Fab, 1898), t. iv.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
- ↑ (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
- ↑ Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.
- ↑ W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.87.