Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:56, 20 Chwefror 2026 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eleni (2026) mae'n drichanmlwyddiant geni'r teithiwr, hanesydd, hynafiaethydd a naturiaethwr Thomas Pennant (1726-98) o'r Downing yn Sir y Fflint. Ysgrifennodd nifer o lyfrau sylweddol ar wahanol feysydd a theithiodd yn helaeth iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, yn ogystal ag i rai mannau ar gyfandir Ewrop. Ffrwyth ei deithiau yng Nghymru oedd ei Tours in Wales a gyhoeddwyd mewn tair rhan. Dros y blynyddoedd ymddangosodd sawl argraffiad o'r teithiau difyr hyn ac ym 1885 cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg ohonynt, sef Teithiau yng Nghymru o waith Yr Athro John Rhŷs, Athro Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Isod ceir golwg ar ymweliad Pennant ag Uwchgwyrfai yn ystod ei deithiau a daw'r dyfyniadau a nodir o gyfrol John Rhŷs.

Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai

Ar ôl ymweld â Beddgelert aeth Pennant ymlaen am Ryd-ddu a Llyn Cwellyn a daeth i mewn i Uwchgwyrfai drwy fwlch Drws-y-Coed. Ceir tipyn o hanes Llyn y Dywarchen ganddo gan gyfeirio at sylwadau Gerallt Gymro am yr ynys a oedd yn crwydro ar hyd a lled y llyn. Dywed y bu peth cloddio am gopr yn Nrws-y-Coed ychydig flynyddoedd cyn ei ymweliad a bod 'llafnau tra theneuon o'r metel cynhenid' i'w cael yn y creigiau yno. Aeth yn ei flaen i gael golwg ar ddau lyn Nantlle 'y rhai a ffurfiant ddwy len brydferth o ddwfr'. Cyfeiria at yr olygfa wych o'r Wyddfa drwy fwlch Drws-y-Coed a anfarwolwyd yn narlun Richard Wilson yr oedd Pennant yn gyfarwydd ag o. Mae'n sôn hefyd i Edward I aros am gyfnod ym maenor Nantlle yn haf 1284 gan gyfeirio nifer o'i orchmynion i'w swyddogion oddi yno.

Yn hytrach na mynd ymlaen drwy ddyffryn Nantlle trodd Pennant yn ei ôl o Faladeulyn a dychwelyd i gyfeiriad Beddgelert a Phont Aberglaslyn gan deithio drwy Eifionydd a Llŷn a dychwelyd i gwmwd Uwchgwyrfai drwy |Bwlch yr Eifl.