Melin Forgan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:56, 25 Tachwedd 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Melin Forgan ar waelod ceunant Afon Llifon sy'n dod i lawr o gyfeiriad Maes Tryfan, rhai cannoedd o lathenni'n nes at y gwastatir na melin Ffatri Tryfan. Melin ŷd a grawn oedd Melin Forgan. Roedd cafn neu ffrwd felin yn cario dŵr o'r ceunant at yr olwyn. Hen enw ar y felin oedd Melin Cae'r Ffridd, gan ei bod yn perthyn i ystad fechan Cae'r Ffridd, ac yn eiddo i deulu Williams, mân fyddigion ym mhlwyf Llandwrog. Ceir gweithredoedd yn dyddio'n ôl i o leiaf 1783 ymysg papurau Tŷ'n y Gongl yn Archifdy Prifysgol Bangor lle ceir sôn am yr hen enw. Mae Melin Forgan yn enw sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 19g. yn unig fel enw "swyddogol" ar y felin, ac mor ddiweddar â 1837, ceir sôn o hyd am Felin Cae'r Ffridd. Dichon mai Morgan Williams, Cae'r Ffridd Uchaf, a fu farw ym 1781, oedd y Morgan a roddodd ei enw ar y felin ar lafar gwlad, a'r enw hwnnw mewn amser yn ennill ei blwyf.[1] Ni fyddai rhywun wedi disgwyl y byddai dyn a ddisgrifiai ei hun fel gŵr bonheddig, ac a oedd yn berchen ar ddwy neu dair o ffermydd (Cae'r Ffridd Uchaf ac Isaf a Bryn Golau, yn ogystal â melin rawn), yn gweithio'r felin ei hun, ond mae cyfeiriadau diweddarach yn tueddu i awgrymu fod William Williams, mab y perchennog cyntaf y clywir amdano, sef Morgan Williams, yn felinydd a weithiai ei felin ei hun, yn ogystal â mab hwnnw, taid y bardd Fferyllfardd.

Y cyfeiriad cynharaf at "Felin Forgan" sydd wedi dod i law yw cyfeiriad Dr Thomas Parry at un Robert Morris a oedd yn felinydd yno ym 1802, pan gystadlodd ar yr awdl mewn eisteddfod yn Llanddeiniolen. Nodir mai William Williams oedd y melinydd adeg llunio'r map degwm ym 1840, ac erbyn hynny, Melin Forgan yw'r enw a ddefnyddid. Yn ôl cyfrifiad 1841, gelwir y lle'n Rhaeadr Llifon, gyda William Williams, ei wraig ac wyth o blant yn byw yno, yn cynnwys William Morgan (a dyfodd i fod yn feddyg ac yn fardd). Ym 1851, Richard Thomas oedd yn byw yno, ond Hugh Thomas oedd y melinydd. Ym 1861, roedd Daniel Eames yn ffermio yno ac roedd ef yn fasnachwr llwyddiannus a gyflogodd gariwr, sef Thomas Jones. Dywed traddodiad bod merched y Felin yn y cyfnod hwnnw yn gwisgo'n grand ac yn mynd i gapel Bryn'rodyn (MC) yn eu silks and satins!

Ym 1871, Owen Jones oedd y melinydd, yn gweithio i Daniel Eames ond, erbyn 1891, roedd y Felin yng ngofal ei weddw Frances a'i ddau fab, Owen a Richard. Erbyn 1899, ymddengys bod Frances wedi ail-briodi efo Thomas Jones, gweithiwr ym Melin Forgan. Bu farw Frances ym 1906 ac Owen ei mab fu yno hyd nes iddo symud i fyw i Benisarhos, Y Groeslon ym 1914.

O 1915, David E. Jones a'i deulu fu yn y Felin hyd nes ei farw ym 1923. Wedyn daeth Evan Roberts a Sarah ei wraig yno gan adael ym 1944, pan ddaeth Sais o'r enw Bazzard yno. Am ychydig iawn y bu ef yn malu ond bu'n marchnata a gwerthu gwair a gwellt am rai blynyddoedd, ac yn gwerthu llefrith o gwmpas yr ardal.

Mae'r Felin yn dal i sefyll ac olion yr olwyn ddŵr yno hefyd. Hefyd gellir gweld cwrs ffrwd y felin trwy'r ddôl gerllaw, er ei bod yn sych ers blynyddoedd. Roedd yno gae o'r enw Cae Mulod lle cedwid rhyw ddwsin o fulod ar gyfer cludo'r grawn a'r blawdiau.[2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, llsgrau. Tŷ'nygongl 413, 465, 517, 575
  2. Sylfaen rhannau olaf yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.