Robert Jones (Callestr Fardd)
Bardd gwlad a cherddor oedd Robert Jones (Callestr Fardd) (1795-1866) a hanai'n wreiddiol o Lanelwy, lle bu ei dad yn athro ysgol ac yn biler o'r achos Calfinaidd. Fe'i prentisiwyd yn of alcam. Ar ôl cyfnod ym Manceinion, lle aeth (yn ôl coffád i'w fab yn Y Geninen) yn gaeth i alcohol. Ymunodd â'r fyddin tua 1813. Ar ôl dychwelyd o Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel, dihangodd o'r fyddin a symud (er mwyn cuddio oddi wrth yr awdurdodau) i dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog. Yno, cyfarfu a'i wraig Ellen, a buont yn byw yn Llandwrog am ryw ddeng mlynedd. Wedi i'w fab hynaf John Jones (Vulcan) gael ei eni, symudodd y teulu i Gaernarfon ac wedyn i Fethesda, lle bu'n aelod o'r gymuned farddol, a bu'n arwain corau a bandiau.[1]
Un darn o'i waith sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Cân newydd : ar yr achlysur o farwolaeth tair o ferched ieuainc yn yr Acr fair, swydd Ddinbych, Mawrth 14, 1830, trwy ddarfod i wal y safent arni gilio oddi tanynt, a'u gollwng hwy i danllwyth mawr o dân, sef Mary Howell, yn 12 oed, Mary Hughes yn 15, a Mary Jones yn 18 / R. Jones, C-ll-str F-r-dd. Fe'i hargraffwyd yng Nghaerfyrddin tua 1831.[2]
Bu farw yn 70 oed yng Nghaellwyngrydd, Bethesda, ar 16 Ionawr 1866 . Mae hysbysiad o'i farwolaeth yn Yr Eurgrawn yn nodi ei fod yn fardd a arbenigai ar y mesurau caeth pan yn ifanc. Roedd yn aelod selog ac yn flaenor gfyda'r Wesleaid.[3]