Robert Jones (Callestr Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:30, 10 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd gwlad a cherddor oedd Robert Jones (Callestr Fardd) a hanai'n wreiddiol o Lanelwy, lle bu ei dad yn athro ysgol. Fe'i prentisiwyd yn of alcam. Ar ôl cyfnod ym Manceinion, lle aeth (yn ôl coffád i'w fab yn Y Geninen) yn gaeth i alcohol. Ymunodd â'r fyddin tua 1813. Ar ôl dychwelyd o Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel, dihangodd o'r fyddin a symud (er mwyn cuddio oddi wrth yr awdurdodau) i dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog. Yno, cyfarfu a'i wraig Ellen. Wedi i'w fab hynaf John Jones (Vulcan) gael ei eni, symudodd y teulu i Gaernarfon ac wedyn i Fethesda, lle bu'n aelod o'r gymuned farddol, a bu'n arwain corau a bandiau.[1]

Un darn o'i waith sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Cân newydd : ar yr achlysur o farwolaeth tair o ferched ieuainc yn yr Acr fair, swydd Ddinbych, Mawrth 14, 1830, trwy ddarfod i wal y safent arni gilio oddi tanynt, a'u gollwng hwy i danllwyth mawr o dân, sef Mary Howell, yn 12 oed, Mary Hughes yn 15, a Mary Jones yn 18 / R. Jones, C-ll-str F-r-dd.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Geninen, 1.3.1890, tt.20-3
  2. Catalog y Llyfrgell Genedlaetho, cyrchwyd 1-.3.2025