Henry Howell Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 23 Medi 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Dr Henry Howell Parry (1835-1907) yn gwasanaethu fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.[1]

Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd Gwilym Droed-ddu. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Y Bontnewydd. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn Y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.

Priododd ag Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, Rhostryfan ym 1873.[2] Roedd hi 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John y Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn gyrfa fel hyfforddwr ceffylau.[3]

Erbyn 1891 roedd Dr Parry wedi ail-briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.[4] Gadawodd eiddo gwerth £1952.[5]Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871
  2. Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873
  3. Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912
  4. Caernarvon and Denbigh Herald 5.4.1907, t.8
  5. North Wales Express 17.5.1907, t.3