Stemar y ''Monk''

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:27, 19 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trychineb a ddigwyddodd oddi ar arfordir Uwchgwyrfai oedd llongddrylliad y stemar fechan, The Monk, ar 7 Ionawr 1843, a bu Eben Fardd yn dyst iddo, fel y noda yn ei ddyddiadur am y diwrnod hwnnw. Roedd y llong wedi cychwyn o Bortinllaen tua 3 o'r gloch y p'nawn hwnnw ac yn hwylio am Lerpwl gyda llwyth o foch a chynnyrch fferm o Lŷn - roedd llawer o deithiau o'r fath rhwng Lerpwl a phorthladdoedd bychain Llŷn yn y cyfnod hwnnw nes i oes y trên eu disodli. Yn ogystal â chriw y llong, roedd nifer o bobl leol ar ei bwrdd hefyd gyda'u cynnyrch. Aeth y llong i drafferthion ym Mae Caernarfon mewn gwynt cryf ac nid oedd ei hinjan fechan yn ddigonol i'w chadw ar ei llwybr. Dywed Eben iddi gael ei dryllio ar far gogleddol Caernarfon tua 7.00p.m. a phan aeth ef i'r ffynnon (Ffynnon Beuno mae'n debyg) i nôl dŵr tuag wyth roedd goleuadau yn ei rigin i'w gweld o hyd. Dywed fod pawb ar ei bwrdd wedi boddi, heblaw am 6 a achubwyd.[1] (Ymhlith y rhai a gollwyd, roedd bachgen ifanc 17 oed, Philip Parry o Tan-y-ffynnon, Dinas, a oedd wedi mynd ar y daith i gynorthwyo efo'r moch. Roedd yn frawd i hen, hen daid i awdur y pwt yma.) Yn unol ag arfer y cyfnod cyfansoddwyd mwy nag un faled i gofio llongddrylliad y Monk, ac enwir y rhai a gollwyd ynddynt. Hefyd pan gynhaliwyd ymchwiliad yn ddiweddarach i'r drychineb, nodwyd bod y llong mewn cyflwr cyffredinol wael, ei bod yn gollwng a hefyd ei bod wedi ei gorlwytho fel ei bod yn rhy isel yn y dŵr.

Cynhaliwyd cwest gan y Crwner, H. Hunter Hughes ar bedwar corff a ganfuwyd ar lan y môr yng Nghlynnog a Llandwrog, yn cynnwys y capten, sef Capten Matthew James. Roedd y tri arall yn gwisgo gwisg morwr ac felly nid oedd yr un ohonynt yn deithiwr cyffredin. Nodwyd gan y crwner nad oedd bad achub Llanddwyn ar gael yn y lle arferol, ac roedd hynny wedi ychwanegu o bosibl at golli bywydau.[2]

Cyfeiriadau

  1. Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.141.
  2. North Wales Chronicle, 17.1.1843, t.3