Tyddyn Gwydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:13, 5 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif annedd Tyddyn Gwŷdd heb fod ymhell o Orsaf Cyffordd Tryfan ar Reilffordd Eryri ac fe'i lleolir yn Rhostryfan yng Nghyfeiriadur y Cod Post. Fodd bynnag, Tyddyn Gwydd heb acen grom o gwbl i ddangos sut y dylid ynganu'r enw a geir yn y Cyfeiriadur ac mewn sawl cyfeiriad arall. Ond mewn cofnod o 1858-9 yn llyfr siop Rhostryfan nodir Tyddun gwudd, sy'n dangos y sain yn glir, gyda'r acen grom ar yr 'y' yn hytrach na'r 'w'. Anodd yw penderfynu ar ystyr gwŷdd yma; gall fod yn gwŷdd = coed, gwŷdd = gwehydd (weaver), neu hyd yn oed gwŷdd = y ffrâm y mae gwehydd yn gweithio arni. Fodd bynnag, mae rhai cofnodion yn cynnwys y fannod. Tyddyn y gwydd a geir mewn ewyllys o 1857 ac mae hynny efallai'n awgrymu mai cartref gwehydd oedd y tyddyn, yn hytrach na thyddyn mewn coed. Mae'n gyffredin iawn cael enw crefftwr ar ôl yr elfen tyddyn. [1]

Arferai pobl leol gyfeirio at "Stesiwn Tŷ'n Gwŷdd" wrth sôn am Gyffordd Tryfan (yr enw swyddogol) ac mae'r arfer yn parhau hyd heddiw wedi i'r hen orsaf gael ei hailadeiladu fel arosfan ar Reilffordd ailanedig Eryri.[2]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.246-7
  2. Gwybodaeth leol