Penyffridd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:21, 22 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penyffridd yw'r enw ar y rhan honno bentref Rhosgadfan i'r de o'r ffordd i gyfeiriad Moeltryfan ac i'r dwyrain o'r ffordd sydd yn arwain i gyfeiriad Y Fron. Penyffridd oedd y darn cynharaf o bentref Rhosgadfan i gael ei godi heb adael tir i'r trigolion fedru amaethu rhywfaint - sef yr hyn a elwir yn 'dai moel' yn yr ardal. Yn is i lawr y mynydd ac i'r gogledd o Benyffridd, roedd tyddynnod wedi datblygu dros y 19g, gan olygu y byddai'r tir yn parhau yn glytiau y gallai'r chwarelwyr a oedd yn byw ynddynt eu hamaethu i gynhyrchu ychydig o lefrith a menyn, ac efallai cadw mochyn neu ddau at gynhaliaeth y teulu.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma