Capel Lleuar
Mae Capel Lleuar yn enw ar gwt hirsgwar ar ben bryncyn i'r de o dŷ Lleuar Fawr. Erbyn hyn nid yw'n ddim ond pentwr o gerrig tua 7 metr o hyd a 5 metr o led. Nid yw diben nac oedran yr adeilad yn glir, ond cafwyd hyd i garreg gerllaw a allai fod yn bowlen i ddal dŵr wedi'i gysegru. Capel Lleuar yw'r enw a ddefnyddir yn lleol.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.54