Thomas Radcliffe (Tryfanydd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:29, 10 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas D. Radcliffe (Tryfanydd) (1853-1939) yn saer maen ac yn fardd cyhoeddedig. Cil Llidiart, Rhostryfan oedd ei gartref wedi i’r teulu symud o Dalwrn, Llanddyfnan, Sir Fôn. Ellen Radcliffe (g.1821) a hanai o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon oedd ei fam ac mae’n debyg mai Thomas Radcliffe, mab Joseph ac Elinor Radcliffe (g.1830) o Landdyfnan oedd ei dad. Er gwaethaf ei gyfenw, ymddengys mai Cymro uniaith ydoedd.

Meddir iddo symud llawer yn ystod ei ieuenctid, er iddo fynychu Ysgol Frytanaidd Dwyran pan oedd rhwng 7 a 10 oed. Cafodd fawr o addysg ffurfiol wedyn, ond treuliodd dymor yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog pan oedd tua 25 oed, a hynny dan yr athro Y Parch John Evans.

Saer maen ydoedd o ran ei alwedigaeth er iddo golli ei iechyd yn gynnar (i’r gwynegon, mae’n debyg). Erbyn 1901 roedd wedi newid ei waith i fod yn glocsiwr hunangyflogedig yn gweithio gartref.[1]

Erbyn 1880 roedd wedi cydio yn yr awen, er (ar ei gyfaddefiad ei hun) roedd barddoniaeth wedi ei swyno ers iddo fod yn blentyn bach. Mae archwiliad o fynegai papurau newydd ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos dwsinau o enghreifftiau ohono’n anfon englynion a cherddi mwy rhigymllyd i’r colofnau barddol gwahanol ac roedd yn barod iawn i gyfansoddi englynion coffa. Y wobr gyntaf a enillodd oedd am bryddest fer ar y testun “Y Pulpud” yn Eisteddfod Nefyn. Enillodd dros hanner cant o gystadlaethau wedi hynny gan gynnwys cadair Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn.[2]

Ym 1914 cyhoeddodd cerdd yn annog i ddynion ifanc ymrestru yn y Fyddin.

Dyma a ddywedodd William W. Ross, Cymro Americanaidd a hanai o Rostryfan amdano:

Tom D. Radcliffe (Tryfanydd), awdwr "Myfyrion yr Awen." Gallaf ddweyd fel y dywedant yn Neheudir Cymru. "Bachan piwr yw Tom." Llawer awr ddifyr dreuliais yn nghwmni y bardd Tryfanydd. 'Rwyf yn cofio i mi a John Thomas, y crydd, gyfarfod a Tryfanydd ar y ffordd, a gofynnodd John Thomas iddo, a oedd yn gwella, a dyma yr ateb gafodd:

Yn wir yr wyf yn aros - beunydd 
    Dan boenau er's wythnos, 
  Dyodda wna i bob dydd a nos 
  Yn y joint yma, John Thomas. 

Saer maen oedd yn ôl ei alwedigaeth, a chollodd ei iechyd tua 30 mlynedd yn ôl, ond bu yn bur Iwyddianus fel bardd wedi hynny.[3]

Mae ei ddefnydd o’r ffugenw Tryfanydd yn dyddio o 1880 o leiaf, ac ni ddylid cymysgu rhyngddo fo a dyn arall a arddelai ffugenw tebyg, sef J.R. Tryfanwy, y bardd dall o Borthmadog a aned yn Rhostryfan ym 1867.[4] Dichon fodd bynnag mai teyrnged i Dryfanydd oedd i Tryfanwy ddewis ei ffugenw yntau, gan fod Tryfanydd wedi bod yn athro barddol ar Tryfanwy ar ddechrau taith farddol hwnnw. Diddorol yw deall mai yn Eisteddfod Madog, 1887, y cafodd y ddau eu hurddo yn yr Orsedd.[5]

Mae W.W. Ross yn sôn hefyd Richard Radcliffe (g.1855), brawd Tom:

Dylynai yntau yr un alwedigaeth a'i frawd Tom, sef saer maen. Cerddor oedd Richard, ac yn ddyn da gyda phob achos, yn enwedig gyda dirwest. Yr oedd yn ddyn selog a gweithgar dros ddirwest.[6]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891-1921; Mynegai i’r Cofrestrau Marwolaethau, 1939
  2. J.R. Tryfanwy, Tryfanydd, (]Heddyw, Cyf.1, rhif 9), tt.210-12
  3. Y Drych, 15.7.1915, t.1
  4. Anhysbys, Tryfanwy, (Heddiw, Cyf.1, rhif 3), tt.55-6
  5. J.R. Tryfanwy, Tryfanydd, (Heddyw, Cyf.1, rhif 9), tt.210-12
  6. Y Drych, loc. cit.